Gedicht
Menna Elfyn
Cerdd Gocos
Cerdd Gocos
Cerdd Gocos
Hi oedd y wraig wrth ein drws,hwyr brynhawn, basged mewn llaw,
lliain gwyn yn orchudd
fel Cymun heb ei godi.
Yna’n sydyn, clegar o gocos,
islais o fara lawr
ar bapur di-saim,
a’r fargen ar y ford.
Adeg swpera wedyn,
byddai mam yn arllwys
tosturi at y wreigan,
ar daith o Ben-clawdd i Gwm Tawe,
mewn bws decer dwbwl.
A theimlo’r rhyddhad
i’w siwrne tua thre
fod yn ysgafnach:
sylltau yn lle cregyn,
wrth i’n ffyrc anturio’n ffyrnig.
Mae ei gwên gyda mi o hyd,
yn toddi i groeso fy mam.
Dwy siâp calon fel cocos,
y rhai fu’n adeiladu
eu tai ar dywod
cyn i’r llanw daenu
ei gotwm ei hun o ewyn.
A’r wraig gocos?
Tonnau gwallt olchwyd dan het,
a’i siôl yn rhidens ar draeth,
machlud ar ddŵr,
fel finegr brag da
sy’n brathu gwefus.
Awelon haf bro Gŵyr
yn chwythu ein mynd a’n dyfod—
gan ddadbacio ennyd o bicnic.
A’r llun rhyfeddol hwnnw
ohoni’n llenwi’r peint cwrw
drosodd a throsodd,
fel diniweidrwydd yn disgyn
nes i’r gwydr niwlog
lwyrymwrthod,
yn wag.
THE COCKLEWOMAN
The late afternoon caller,
her basket, a linen coverlet,
like the laying of communion;
then suddenly, the cackle
of cockles, and bara lawr,
a falling tone on greaseproof,
and the deal’s deliverance.
Later, my mother at suppertime
would season pity on the poor
lady, for her long journey,
on a double-decker bus
from Gower to Pontardawe;
gladdened too at her return
all the lighter,
shillings instead of shells,
as we sifted our forks like adventurers.
Her smile is still alive,
Melting into my mother’s welcome;
two heartshaped cockles
who built their homes
on sand, before the tide’s curl,
and a shawl’s fringe on the shore;
sunset on water, and skin
a fine malt vinegar,
burning lip.
And ah, the salt air of Gower,
days of spins, unpacking,
our picnics, near sea lavender.
But one gaze still lingers,
her sacrament at our door,
the beer pint catches,
to me in the Manse’s temperance,
was the sound
of innocence, descending,
a coming of age:
that emptying, emptying cry.
Translated by Elin ap Hywel
*bara lawr: laverbread
© 2011, Bloodaxe Books
From: Murmur
Publisher: Bloodaxe Books,
From: Murmur
Publisher: Bloodaxe Books,
Gedichten
Gedichten van Menna Elfyn
Close
Cerdd Gocos
Hi oedd y wraig wrth ein drws,hwyr brynhawn, basged mewn llaw,
lliain gwyn yn orchudd
fel Cymun heb ei godi.
Yna’n sydyn, clegar o gocos,
islais o fara lawr
ar bapur di-saim,
a’r fargen ar y ford.
Adeg swpera wedyn,
byddai mam yn arllwys
tosturi at y wreigan,
ar daith o Ben-clawdd i Gwm Tawe,
mewn bws decer dwbwl.
A theimlo’r rhyddhad
i’w siwrne tua thre
fod yn ysgafnach:
sylltau yn lle cregyn,
wrth i’n ffyrc anturio’n ffyrnig.
Mae ei gwên gyda mi o hyd,
yn toddi i groeso fy mam.
Dwy siâp calon fel cocos,
y rhai fu’n adeiladu
eu tai ar dywod
cyn i’r llanw daenu
ei gotwm ei hun o ewyn.
A’r wraig gocos?
Tonnau gwallt olchwyd dan het,
a’i siôl yn rhidens ar draeth,
machlud ar ddŵr,
fel finegr brag da
sy’n brathu gwefus.
Awelon haf bro Gŵyr
yn chwythu ein mynd a’n dyfod—
gan ddadbacio ennyd o bicnic.
A’r llun rhyfeddol hwnnw
ohoni’n llenwi’r peint cwrw
drosodd a throsodd,
fel diniweidrwydd yn disgyn
nes i’r gwydr niwlog
lwyrymwrthod,
yn wag.
THE COCKLEWOMAN
The late afternoon caller,
her basket, a linen coverlet,
like the laying of communion;
then suddenly, the cackle
of cockles, and bara lawr,
a falling tone on greaseproof,
and the deal’s deliverance.
Later, my mother at suppertime
would season pity on the poor
lady, for her long journey,
on a double-decker bus
from Gower to Pontardawe;
gladdened too at her return
all the lighter,
shillings instead of shells,
as we sifted our forks like adventurers.
Her smile is still alive,
Melting into my mother’s welcome;
two heartshaped cockles
who built their homes
on sand, before the tide’s curl,
and a shawl’s fringe on the shore;
sunset on water, and skin
a fine malt vinegar,
burning lip.
And ah, the salt air of Gower,
days of spins, unpacking,
our picnics, near sea lavender.
But one gaze still lingers,
her sacrament at our door,
the beer pint catches,
to me in the Manse’s temperance,
was the sound
of innocence, descending,
a coming of age:
that emptying, emptying cry.
Translated by Elin ap Hywel
*bara lawr: laverbread
From: Murmur
Cerdd Gocos
Sponsors
Partners
LantarenVenster – Verhalenhuis Belvédère