Poetry International Poetry International
Gedicht

Ifor ap Glyn

The Excuse

Here in Majdanek,
in the normalised hell of Majdanek,
whose chimneys have long since cooled,
whose last gout of smoke is a distant memory,
the dust still rises...
 
Here in the tenements next door,
we open the morning curtains
on the normalised hell of Majdanek,
on the wooden huts
where chains of fierce dreams
united Jews each night,
 
on the millions of widowed shoes
that they left behind,
 
and on the “Luftgrabe”,
            - “the grave in the air” -
which swirls around these tenements still …
 
Here in the darkness of my room,
I bear witness once again;
liver-spotted hands guide our film 
through the teeth of the gate.
 
And it’s 1939 once more;
silent waves on a Baltic beach;
a lemonade sea with silver bubbles
bursting in that last sun…
 
The wind curtains your hair
round your face,
before a young hand retrieves your uncertain smile…
and I see all this now
through a glass darkly…
 
Outside, the electric for the trams
is like barbed wire on each and every conscience;
the eyes of all 
who’ve passed their three score years and ten,
must be doubted
the eyes that watched so much yet saw nothing,
 
our excuse is a cancer
in us all …
 
The film comes to an end;
the last frame burns to nought
and your dust
swirls and falls through the light beam…

 

 

Esgus

Esgus

Yma’n Majdanek,
yn uffern normal Majdanek,
lle mae’r cyrn wedi hen oeri,
a chwydfa’r mwg olaf yn atgof pell,
mae’r llwch yn dal i godi...
 
Yma’n y fflatiau cyfagos,
agorwn gyrtansia’r bore
ar uffern normal Majdanek,
y cytiau pren
lle roedd cadwyni o freuddwydion ffyrnig
yn uno’r Iddewon bob nos,
 
y filiwn o sgidiau gweddw
gadawsant ar eu hôl,
 
a’r “Luftgrabe”,
            - “y bedd yn yr awyr” -
sy’n chwyrlïo o gwmpas y fflatiau hyn o hyd…
 
Yma’n nhywyllwch fy ‘stafell,
dwi’n tystiolaethu unwaith eto;
mae blodau’r fynwent ar y dwylo
sy’n dirwyn y ffilm drwy ddanedd yr olwynion.
 
Ac mae’n 1939 drachefn;
tonnau mud ar draethau’r Baltig;
y môr lemonêd a’i swigod arian
yn byrstio’n yr haul olaf…
 
Mae’r gwynt yn troi dy wallt
yn llen am dy wyneb,
cyn i law ifanc drwsio dy wên ansicr…
a gweled yr wyf yr awr hon
trwy ddrych, mewn dameg…
 
Tu allan, lle mae’r trydan i‘r tramiau
fel weiren bigog ar bob cydwybod,
mae lle i amau llygaid pawb
dros oed rhyw addewid,
a wyliodd gymaint heb weled dim,
ac mae’r esgus yn gansar
ymhob un ohonom …
 
Daw’r ffilm i ben;
mae’r llun yn llosgi’n ddim
ac mae dy lwch
yn chwrlïo-ddisgyn drwy’r goleuni…
 

 

Ifor ap Glyn

Ifor ap Glyn

(Verenigd Koninkrijk, 1961)

Landen

Ontdek andere dichters en gedichten uit Verenigd Koninkrijk

Gedichten Dichters

Talen

Ontdek andere dichters en gedichten in het Wels

Gedichten Dichters
Close

Esgus

Yma’n Majdanek,
yn uffern normal Majdanek,
lle mae’r cyrn wedi hen oeri,
a chwydfa’r mwg olaf yn atgof pell,
mae’r llwch yn dal i godi...
 
Yma’n y fflatiau cyfagos,
agorwn gyrtansia’r bore
ar uffern normal Majdanek,
y cytiau pren
lle roedd cadwyni o freuddwydion ffyrnig
yn uno’r Iddewon bob nos,
 
y filiwn o sgidiau gweddw
gadawsant ar eu hôl,
 
a’r “Luftgrabe”,
            - “y bedd yn yr awyr” -
sy’n chwyrlïo o gwmpas y fflatiau hyn o hyd…
 
Yma’n nhywyllwch fy ‘stafell,
dwi’n tystiolaethu unwaith eto;
mae blodau’r fynwent ar y dwylo
sy’n dirwyn y ffilm drwy ddanedd yr olwynion.
 
Ac mae’n 1939 drachefn;
tonnau mud ar draethau’r Baltig;
y môr lemonêd a’i swigod arian
yn byrstio’n yr haul olaf…
 
Mae’r gwynt yn troi dy wallt
yn llen am dy wyneb,
cyn i law ifanc drwsio dy wên ansicr…
a gweled yr wyf yr awr hon
trwy ddrych, mewn dameg…
 
Tu allan, lle mae’r trydan i‘r tramiau
fel weiren bigog ar bob cydwybod,
mae lle i amau llygaid pawb
dros oed rhyw addewid,
a wyliodd gymaint heb weled dim,
ac mae’r esgus yn gansar
ymhob un ohonom …
 
Daw’r ffilm i ben;
mae’r llun yn llosgi’n ddim
ac mae dy lwch
yn chwrlïo-ddisgyn drwy’r goleuni…
 

 

The Excuse

Here in Majdanek,
in the normalised hell of Majdanek,
whose chimneys have long since cooled,
whose last gout of smoke is a distant memory,
the dust still rises...
 
Here in the tenements next door,
we open the morning curtains
on the normalised hell of Majdanek,
on the wooden huts
where chains of fierce dreams
united Jews each night,
 
on the millions of widowed shoes
that they left behind,
 
and on the “Luftgrabe”,
            - “the grave in the air” -
which swirls around these tenements still …
 
Here in the darkness of my room,
I bear witness once again;
liver-spotted hands guide our film 
through the teeth of the gate.
 
And it’s 1939 once more;
silent waves on a Baltic beach;
a lemonade sea with silver bubbles
bursting in that last sun…
 
The wind curtains your hair
round your face,
before a young hand retrieves your uncertain smile…
and I see all this now
through a glass darkly…
 
Outside, the electric for the trams
is like barbed wire on each and every conscience;
the eyes of all 
who’ve passed their three score years and ten,
must be doubted
the eyes that watched so much yet saw nothing,
 
our excuse is a cancer
in us all …
 
The film comes to an end;
the last frame burns to nought
and your dust
swirls and falls through the light beam…

 

 

Sponsors
Gemeente Rotterdam
Nederlands Letterenfonds
Stichting Van Beuningen Peterich-fonds
Prins Bernhard cultuurfonds
Lira fonds
Versopolis
J.E. Jurriaanse
Gefinancierd door de Europese Unie
Elise Mathilde Fonds
Stichting Verzameling van Wijngaarden-Boot
Veerhuis
VDM
Partners
LantarenVenster – Verhalenhuis Belvédère